Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:02 - 10:26 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Joyce Watson Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC. Dirprwyodd Lyndsay Whittle AC ar ei rhan.
2 Deisebau newydd
2.1P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn am y ddeiseb; a
· Peter Black AC i ofyn am ei farn am y ddeiseb, o gofio ei brofiad penodol gyda Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
2.2P-04-520 Ynghylch Canslo Pob Llawdriniaeth Orthopedig Ddewisol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystod Gaeaf 2013/14
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
· Bwrdd Iechyd Hywel Dda, fel mater o frys; a
· Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
i ofyn am eu barn am y ddeiseb.
2.3P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn am y ddeiseb;
· Darren Millar AC i ofyn am ei farn ynghylch a ellid mynd i'r afael â'r materion a godir yn y ddeiseb yn y Bil y mae ef wedi cael caniatâd i'w gyflwyno y flwyddyn nesaf; a
· Peter Black AC i ofyn am ei farn am y ddeiseb, yn sgîl ei waith ar Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
2.4P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb.
2.5P-04-523 Diogelu'r henoed a phobl sy'n agored i niwed mewn cartrefi gofal
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· ofyn i'r deisebwyr am eu hymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog ac a yw hyn yn mynd i'r afael â'u pryderon mewn modd digonol; a
· disgwyl am ganfyddiadau'r arolwg annibynnol.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· nodi ymateb y Gweinidog a'r ffaith ei bod wedi addo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am unrhyw ddatblygiadau; a
· gofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt unrhyw sylwadau i'w gwneud am lythyr y Gweinidog.
3.2P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chau gan na chafwyd ymateb gan y deisebydd yn ystod y pedair wythnos flaenorol.
3.3P-04-486 Gweithredu Nawr Er Mwyn Achub Siopau'r Stryd Fawr
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a gofynnodd i'r tîm clercio gyflwyno cynnig ar gyfer sesiwn dystiolaeth bosibl.
3.4P-04-504 Diogelwch Cyffordd Pont Maerdy A483
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am eglurhad llawnach o'i barn nad yw'n cael ei ystyried yn addas gosod goleuadau ar y gyffordd hon.
3.5P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r Clerc ysgrifennu at Mr Collins i egluro rôl y Pwyllgor; ac
· ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys mater rhestrau lleol, cynlluniau datblygu lleol, a barn yr arolygydd cynllunio ynghylch yr angen am friff datblygu.
3.6P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ymateb pellach gan y Gweinidog ynghylch ymateb diweddaraf y deisebwyr.
3.7P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ymateb pellach gan y Gweinidog ynghylch ymateb diweddaraf y deisebwyr.
3.8P-04-402 Gweddïau Cyngor
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i'w chau yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, a nododd nad yw'n barod i ddeddfu ar hyn.
3.9P-04-422 Ffracio
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y deisebwyr i ofyn iddynt a oes ganddynt unrhyw sylwadau i'w gwneud am yr ymatebion a ddaeth i law.
3.10 P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd a fyddai'n barod i ystyried diogelu coed hynafol a choed treftadaeth ymhellach mewn deddfwriaeth arfaethedig.
3.11 P-04-444 : Ymgyrch 'Dig for Victory'
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i'w chau gan na chafwyd ymateb gan y deisebwr.
3.12 P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r Gweinidog hysbysu'r deisebwr ynghylch dechrau a chynnydd yr arolwg y mae disgwyl iddo ddechrau yn ystod haf 2014; ac
· ysgrifennu at yr RSPCA i ofyn iddo am ei farn am ymateb y deisebwr dyddiedig 23 Tachwedd i'w lythyr.
3.13 P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gynhyrchu adroddiad yn crynhoi canfyddiadau'r Pwyllgor ar ôl iddo drafod y ddeiseb a'r materion ehangach ac i drafod hwn mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol.
3.14 P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i'w chau gan na chafwyd ymateb gan y deisebwyr ers cryn amser.
3.15 P-04-443 Hanes Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chau gan na chafwyd ymateb gan y deisebwyr ers cryn amser.
3.16 P-04-484 Lwfans Cynhaliaeth Addysg i bawb!
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y deisebydd yn fodlon gydag ymateb y Gweinidog.
3.17 P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebwyr eto.
3.18 P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt unrhyw sylwadau i'w gwneud am yr ymatebion a ddaeth i law.
3.19 P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebwyr eto ynghylch y llythyr gan y Bwrdd Iechyd.
3.20 P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i sicrhau bod Diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r deisebydd gyflwyno ei gynigion mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol; a
· gofyn am sylwadau pellach gan y Gweinidog yn sgîl yr ymatebion a ddaeth i law.
3.21 P-04-507 Mesur iawnderau yng Nghymru ar gyfer menywod a merched: ymlynu wrth y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod (CEDAW)
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt unrhyw sylwadau i'w gwneud am lythyr y Gweinidog.
3.22 P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog eto i ofyn iddi a hoffai fynd i'r afael â'r rhan refeniw o'r ddeiseb yn benodol, yn enwedig yng ngoleuni'r cyhoeddiadau diweddar mewn perthynas â Chomisiwn Silk.
Cyn cau'r cyfarfod, gwnaeth y Cadeirydd atgoffa'r Aelodau o gyflwyniad sydd i ddod ar ddeiseb ac mai dyddiad y cyfarfod nesaf yw 21 Ionawr.
Diolchodd y Cadeirydd hefyd i Sian Giddins am ei gwaith ar ran y Pwyllgor a gwnaeth ei llongyfarch ar ei dyrchafiad diweddar.
Yn olaf, dymunodd y Cadeirydd gyfarchion y tymor i'r Aelodau a staff.